Croeso i fy ail flog! Beth yn y byd sbardunodd fi i roi pin ar bapur neu redeg bysedd dros yr allweddell y tro hwn?
Mentrodd Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd Cymru i Fangor a chroesawyd hwy drwy frecwast gan Rwydwaith WISE (www.wisenetwork.org) fel cyfle i’r Comisiynwyr a busnesau lleol gael cyfle i drafod sut i fynd ati i sicrhau ‘twf gwyrdd’.
Mae’n amlwg ers tro fod geiriau megis ‘gwyrdd’ a chynaliadwyedd’ yn golygu popeth a dim yn dibynnu ar bwy sy’n eu defnyddio. Anaml y byddant yn cyfeirio at y gwir broblem sef ein bod wedi’n cyfyngu i adnoddau un blaned ac nad oes yna blaned B (ymddiheuriadau nad ydi’r chwarae ar eiriau yna’n gweithio yn y Gymraeg!]. Rydym wedi’n caethiwo gan y model economaidd presennol i’r fath raddau fel bod bron pawb, yn gyhoeddus o leiaf, eisiau cael eu gweld fel pobl ‘realistig’ – hynny yw, busnes fel arfer gyda thamaid o wyrdd hwnt ag yma (heb amharu dim ar ‘greu swyddi’, twf mewn GDP at ati).
Yn fy nghyflwyniad i’r digwyddiad rhennais dri dymuniad i’r Comisiwn ei wireddu fel a ganlyn:
A fyddech mor garedig â rhoi’ch troed i lawr yn gadarn ar beth yw ystyr ‘cynaliadwyedd’ Mae cynaliadwyedd a ‘gwyrdd’ wedi cael eu herwgipio ac mae angen eu gosod yn gadarn yng nghyd-destun y cysyniad o ‘fywyd un blaned’?
Yn ail, gwnewch yn glir i bawb nad ydi twf ar bob cyfrif yn ddewis, ac arwain y drafodaeth ar economeg werdd go iawn â llaw gadarn. Mae angen buddsoddiad mewn cyfalaf dynol a chymdeithasol nid dihysbyddu adnoddau. Ni fydd hi’n bosib plesio pawb drwy’r amser – bydd rhai’n anghytuno.
Yn olaf yn eich rôl fel cyfaill a fyddai’n bosib atgoffa Llywodraeth Cymru o’r cyd berthynas yna sydd rhwng popeth a’u rhybuddio y bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn barod am atebion anniben i’r problemau o bosib. Bydd rhaid symud o’r arfer o dderbyn hanner atebion sy’n ffitio’n daclus i focs, gan fod y rheini’n aml yn arwain at ganlyniadau na fwriadwyd.
Dyna’r crynodeb. Isod mae ‘na bapur trafod baratowyd gyda Dr Rhydian Fôn James. Mae’r cynnwys, fel cynnwys y blog, yn adlewyrchu’n barn ni ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn neb arall nac unrhyw sefydliad neu grŵp yr ydym yn perthyn iddynt.
Beth yw gwir liw ‘twf’ – papur trafod wedi’i baratoi yn sgil cyfarfod y Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd Cymru, Bangor 2 Hydref 2012
Cafodd Rhwydwaith WISE Network[1] wahoddiad i noddi brecwast Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd Cymru ar gyfer busnesau yng Ngogledd Cymru. Mae’r comisiwn yn noddi’r ‘chwyldro glân’[2], menter arwyddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn Rio, a menter y dymuna’r Comisiwn ei thrafod gyda budd-ddeiliaid, sef sut mae creu economi garbon isel. Cafwyd cyfarfod da ac edrychwn ymlaen at gael crynodeb o’r drafodaeth ar wefan Cynnal Cymru’n fuan[3].
Nid yw’n gyfrinach fod Gwleidyddion mewn twll o ran yr economi ,yn aml yn creu’r argraff nad oes tamed o ots am ddim cyhyd â’i fod yn ‘creu swyddi’ Nid gwleidyddion mohonom, ein busnes ni yw creu gofod ar gyfer trafod pynciau dyrys yn agored a phwrpas y papur gafael yn y bel mae pobl megis Tim Jackson eisoes wedi bod yn ei thaflu o gwmpas y parc ers peth amser[4].
Pa well esgus felly i baratoi papur trafod a pha le gwell drwy gyfeirio at ‘y chwyldro glân’ ac at yr adroddiad diweddar gan y CBI: ‘Lliw Twf’(The Colour of Growth) [5] a grybwyllwyd yn y cyfarfod?
Lliw Twf
Rydym yn falch fod y CBI wedi mynd i’r drafferth i ddadlau o blaid potensial economaidd busnes gwyrdd ac i awgrymu sut i wireddu ac uchafu’r potensial hwn.
Ar yr olwg gyntaf, ac yng nghyd-destun y cynyddu yn y newid yn yr hinsawdd diflaniad y capan iâ Arctic gellid tybio fod ymddangosiad yr adroddiad yn newyddion da. Yn sicr, mae’n galonogol fod sefydliad megis y CBI yn ystyried yr agenda ‘werdd’ fel cyfle yn hytrach na rhwystrau i dwf.
O ran y ‘chwyldro glân’ mae nodweddion positif:
- Maent yn derbyn fod problem gyda faint o adnoddau yr ydym yn defnyddio;
- Cawn ymrwymiad i ddefnyddio ynni yn effeithlon, yn enwedig trwy newid y ffordd yr ydym yn cynhyrchu nwyddau;
- Mae yna hefyd ymrwymiad i dorri allyriadau carbon;
- Ac fel y CBI gwelir gwyrddio’r economi fel cyfle.
Mae’r clychau’n dechrau canu hefyd yn adroddiad y CBI pan, yn y crynodeb gweithredol cawn ein hysbysu fod ‘gwyrdd’ a ‘thwf’ yn frodyr: fod yr economi garbon isel yn gallu bod yn ‘beiriant twf’. Yn sicr gall fod hyn yn bosib, ond pa mor wyrdd fyddai’r twf hwnnw o ddifri?
Tuedda’r ‘chwyldro glân’ i gredu y bydd gellir gadael y broblem o ddelio â’r holl broblem sydd yn wynebu’r blaned i arweiniad y farchnad ac arloesedd technolegol . Mae’n debygol na fydd hyn yn ddigon – yn ein barn ni, er mwyn cyflawni’r hyn mae ‘chwyldro glân’ yn ei ddeisyfu ni fydd dibynnu ar uwchraddio technolegol yn unig yn ddigon.
Gwir liw twf
A yw’n bosib fod yna frycheuyn yn adroddiad y CBI a bod yna gamddealltwriaeth sylfaenol o’r argyfwng sy’n wynebu’r blaned sy’n arwain at gefnogi economeg ‘busnes fel arfer’ (er y gogwydd gwyrdd)? Canfyddwn ddiffyg dealltwriaeth sylfaenol o wir ystyr twf gwyrdd. Yn yr adroddiad hwn caiff allyriadau nwyon tŷ gwydr (carbon) eu henwi fel y broblem ac economi garbon isel yn cael ei chyflwyno fel yr ateb – mewn geiriau eraill, i’r CBI mae ‘gwyrdd’ yn golygu ‘carbon isel’ sydd hefyd yn gallu cael ei gyfnewid gyda’r gair ‘cynaliadwy’.
Heb grafu dan y wyneb mae’r argymhellion a gynigir i gefnogi busnes gwyrdd (carbon isel, cynaliadwy) fydd yn galluogi’r DU i gofleidio cyfleoedd y farchnad a buddsoddiad rhyngwladol yn rhai synhwyrol yng nghyd-destun economeg prif ffrwd. Ar sail dadansoddiad realistig mae pob rheswm i gredu y gall yr awgrymiadau yn yr adroddiad olygu y gallai’r DU arwain ym maes busnes gwyrdd. Yn anffodus, yr hyn mae darllenwyr y papur yn cael eu hannog i’w anwybyddu yw bod ‘arwain ym myd busnes gwyrdd’ fel y’i disgrifir ddim am ddatrys yr argyfwng mae’r blaned yn ei wynebu. Ar y gorau bydd yn papuro’r craciau yn y polisi gwyrdd am flwyddyn neu ddwy i ddod ac yn annog buddsoddwyr i ymgyfoethogi ar yr hyn fyddem ni yn ei ddisgrifio fel lled-wyrddni. Ar ben hynny ac yn bwysicach, ym marn y CBI mae pob twf yn wyrdd dim ond i’r twf hwnnw beidio â chynyddu’r allyriadau nwyon tŷ gwydr, sy’n golygu y gall twf beri i broblemau economaidd waethygu, a hynny wrth gael eu cyflwyno fel atebion rhagweithiol.
Mae’r adroddiad yn cyfyngu ei hun i ddwy broblem: newid yn yr hinsawdd ac ansicrwydd cyflenwad y ni. Mewn gwirionedd mae’r argyfwng ecolegol sy’n wynebu’r ddaear yn llawer mwy difrifol. Argyfwng cymdeithasol llwyr yw ansicrwydd ynni, gwaddod argyfwng ehangach sydd ynghlwm â defnyddio adnoddau lle mae gormod o adnoddau yn cael eu defnyddio mewn modd anghynaladwy a heb ystyried yr oblygiadau ecolegol ac amgylcheddol ehangach. Gellir ystyried argyfwng defnydd adnoddau fel un o ordreulio, gan fwyaf yn y gwledydd datblygedig; tanwydd ffosil, bwyd, dwr, o’r rhan fwyaf o adnoddau sy’n cael eu hystyried yn ‘angenrheidiol’ i fywyd modern yr unfed ganrif ar hugain. Mae ffiniau treuliant wedi, neu ar fin cael eu croesi. Ffiniau sy’n cael eu gwadu neu eu hanwybyddu neu eu croesi yn fwriadol – dod trin mwy o dir drwy dorri coedwigoedd glaw, tyllu am olew yn yr Arctig ag ati. Pen draw hyn fydd newid pellach yn yr hinsawdd ac argyfwng ecolegol dyfnach, a’r unig ffordd i rwystro’r cynnydd yn y newid fydd lleihad yn yr adnoddau sydd ar gael ac yn y pendraw eu disbyddu’n llwyr. Yn anffodus mae adroddiad y CBI yn rhoi glo ar dân y dwyllresymeg fod twf di-ben-draw yn bosib, cyhyd a bod y twf hwnnw’n dwf carbon isel.
Cynigir astudiaeth achos gan y CBI i ddangos y pwynt yn glir. Adroddir fod yr archfarchnad Sainsbury’s wedi gallu ehangu’i stad heb ddefnyddio mwy o ynni. Ystyrir twf heb gynyddu defnydd ynni felly yn ‘beth da’ er bod yr arbedion mewn ynni megis dim o’i gymharu â’r cynnydd mewn arwynebedd a’r defnydd adnoddau oedd ei angen i ddod i ben â’r cynnydd. Mae’r clod gaiff y llwyddiant yn awgrymu fod y CBI yn gweld twf economaidd – unrhyw dwf – fel blaenoriaeth. Cefnogir y canfyddiad hwn ymhellach gyda’r awgrym croes y dylai diwydiannau sy’n dibynnu ar ynni gael eu heithrio o gostau’r diwygiad i’r farchnad drydan (Elecricity Market Reform) [6].
Yn yr un modd ymddengys fod ‘y chwyldro glân’ wedi ymlynu at economeg eithaf confensiynol. Hynny yw mae’r ‘cyfle’ economaidd wedi ei glymu i elw i gwmnïau a llewyrch economaidd i gynnydd mewn GDP. Mae’r cyplysiad hwn yn gwrth-ddweud y pethau positif am y ‘chwyldro glân’ gan fod nod economaidd confensiynol yn ei hanfod yn golygu cynyddu ein dibyniaeth ar adnoddau naturiol.
Hyd nes y gall rywun ein darbwyllo fel arall ymddengys i nad yw’r twf gwyrdd sy’n cael ei gyflwyno yn yr adroddiad yn wahanol i’r twf dilyffethair, diddiwedd sy’n cael ei goleddu gan feddylfryd neo-ryddfrydol, heb fawr o sylw i effaith amglycheddol y twf. Er nad yn weledigaeth o ‘dwf ar bob cyfri’ ymddengys fod yr adroddiad yn credu fod lleihau rywfaint bach ar ddefnydd ynni, dad garboneiddio ymdrechion diwydiannol a masnachol yn araf, cofleidio technoleg arloesol a datblygu cynnyrch newydd yn ddigon i alluogi busnes fel arfer.
Siom felly yw nodi fod yr adroddiad, er yn llwyddo prawf economeg prif-ffrwd, nid yw’n llwyddo yn erbyn llinyn mesur economeg werdd.
Economeg ‘werdd’ go iawn
Bydd unrhyw drafodaeth ar newid go iawn yn codi aeliau. Ond os na allwn ni arwain dialog ar y newid sydd ei angen, pwy wnaiff? Gallwn ddod i’r casgliad yn hawdd yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni na fydd gwleidyddion (sydd mewn cyfyng gyngor go iawn) fel tyrcwn ddim yn awyddus i bleidleisio o blaid y Nadolig.
‘Economeg werdd’ yw’r enw am economeg y byd go iawn – byd gwaith, anghenion dynnol, defnyddiau sydd ar gael yn y byd, a sut maent yn cynganeddu nid yn gwneud sŵn drwg. I ddechrau mae yn ymwneud â ‘gwerth-defnyddiol’ nid ‘gwerth-cyfnewidiol’ neu arian. Safon nid swm a hynny’n swm heb reswm. Mae ynghlwm wrth adfywiad unigolion, cymunedau ac ecosystemau. Os byddwn yn difetha un o’r rhain rydym yn chwarae gyda’r tŷ o gardiau sy’n cynnal ein cymdeithas.
Mae economeg werdd yn trin economïau fel un – heb unrhyw ran yn bwysicach na’n fwy diwerth nag eraill – cymdeithas, sy’n bodoli oddi fewn ac sy’n ddibynnol ar y byd o’i chwmpas. Yn y cyd-destun hwn nid ellir cyfnewid ‘gwyrdd’ gyda carbon-isel neu ‘gynaliadwy’ er eu bod yn perthyn; mae’n bosib i ddatblygiad fod yn garbon isel/neu gynaliadwy heb fod yn wyrdd yn ystyr economeg werdd y gair. Er enghraifft mae offer tanwydd biomas yn garbon niwtral ac yn gynaliadwy yn ôl diffiniad y CBI ond efallai nad yw effaith tyfu’r cnwd ynni ar yr ecosystem leol yn dderbyniol o safbwynt pobl a’u hamgylchedd. O’r herwydd ni ellir ei ystyried yn ‘wyrdd’.
Dim ond o fewn fframwaith sy’n ystyried pobl a’u hamgylchedd y gall twf economaidd fod yn wyrdd go iawn. Nid yw unrhyw dwf sy’n achosi difrod amgylcheddol neu ecolegol os yw’n cael ei liniaru ai peidio yn wyrdd, ac nid yw twf sy’n achosi difrod cymdeithasol, megis cynyddu annhegwch neu gam-drin gweithwyr yn wyrdd chwaith. Efallai fod trafod gwyrddni a materion cymdeithasol yn anghyffredin ond ystyria economegwyr gwyrdd bethau megis cydraddoldeb a thegwch yn allweddol i greu cymdeithas sy’n parchu’r amgylchedd – ac enghraifft yw’r pwysau sydd ar bobl dlawd i ddefnyddio nwyddau sydd yn llai cynaliadwy. Dydi’r rhan fwyaf o dwf ddim yn wyrdd, hyd yn oed os gellir gwneud y fath beth heb gynyddu defnydd ynni a nwyon tŷ gwydr. Mae hyn oherwydd bod twf yn golygu cynnydd yn y defnydd o ryw adnodd. Mae cynyddu defnydd o adnoddau naturiol yn mynd i olygu rhyw ddifrod neu ddiraddio ecolegol. Yr unig ffordd o sicrhau twf gwyrdd yw drwy gynyddu defnydd o adnoddau cymdeithasol – dod o hyd i ffyrdd y gall pobl weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol heb gael eu cam-drin, twf cyfalaf dynol drwy well addysg a hyfforddiant, a gwyddoniaeth arloesol. Hynny yw, mae twf gwyrdd yn dibynnu’n llwyr ar ddatblygu cymdeithas ac nid ar ecsbloetio natur.
Dylid nodi nad yw’r diffiniad hwn o dwf gwyrdd yn golygu nad yw’n werth hyrwyddo diwydiant – technoleg a dulliau prosesu gwyrdd, neu ddatblygiad agronomaidd os gellir sicrhau na fydd datblygiadau o’r fath yn arwain at ddifrodi’r rhwydwaith o ecosystemau mae cymdeithas yn dibynnu arnynt. Gall gwelliannau o’r fath, serch hynny, ond cyflawni hyn a hyn a dylent fod law yn llaw gyda newid cymdeithasol, gyda phwyslais ar newid patrwm cyflenwi a defnyddio adnoddau.
Rhydian Fôn James & Einir Young
[4] Prosperity without Growth
http://www.sd-commission.org.uk/data/files/publications/prosperity_without_growth_report.pdf