“Tlodi tanwydd” – oes angen ail ystyried y meini prawf?

Mae tlodi tanwydd yn bwnc llosg yng Nghymru ac mae hyd at draean ohonom yn cael ein cyfri’n ‘dlawd o danwydd’ yn ôl polisi Cymreig. Ond mae llawer o bobl sy’n syrthio i’r category hwn yn ystyried eu bod yn gallu cadw’u tai yn gynnes hyd yn oed os oes raid iddynt dolio rhywfaint.

Yn ôl ‘y nhw sy’n gwybod’ dylai stafell fyw gael ei chynhesu i 21°C (ac i 18°C yn yr ystafelloedd eraill). Os ydym yn gallu fforddio gwneud hyn ai peidio yw’r maen prawf sy’n cael ei ddefnyddio i asesu os ydym yn byw mewn tlodi ynni er bod y mwyafrif ohonom yn hollol hapus a chlyd os ydi hi ychydig raddau’n oerach. Wrth wneud hynny gallwn gyhoeddi’n hyderus ein bod yn helpu’r amgylchedd oherwydd mae polisi Cymreig arall yn ein hannog i droi’r gwres i lawr o gwta 1°C i arbed 10% ar ein costau a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr hefyd. Beth ddylem ni wneud? Troi’r gwres i fyny i gwrdd â’r maen prawf ‘gwres derbyniol’ swyddogol neu droi’r gwres i lawr er mwyn arbed ceiniog neu ddwy a’r blaned yn ei sgil? Ydych chi’n teimlo’n gymysg oll i gyd ynglŷn â’r peth? Finnau a’r criw yn SBBS hefyd.

Peidiwch â chamddeall serch hynny. Mae tlodi tanwydd yn bwnc difrifol ac mae’n hollol hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr nad ydi pobl fregus ac anghenus yn dioddef. Mae’n bwysig i ni hefyd i wneud ein gorau i fyw mewn tai sy’n effeithlon hefyd. Ond ydi’r polisïau tlodi tanwydd presennol yn gwella sefyllfa’r bobl rheini, hyd yn oed ar ôl i’r gwelliannau a’r cymorth sydd ar gael yn sgìl cael y label ‘tlawd o danwydd’ gael eu cwblhau?

Dydi gwella effeithlonrwydd ynni’r bobl dlotaf yn ein cymdeithas ddim yn peri iddyn nhw droi’r gwres yn uwch, yn aml byddant yn cadw’r un tymheredd ac yn defnyddio’r effeithlonrwydd i ryddhau rhywfaint o arian tuag at rywbeth arall.

O safbwynt y bobl fwyaf bregus fel pobl hŷn, pobl wedi ymddeol, pobl ar bensiynau bach y wladwriaeth a’r di-waith hir dymor, a fydd help gyda gwella’r tŷ yn sicrhau tymheredd ‘derbyniol’ o 21°C heb incwm lawer mwy? Y gwir amdani yw y gallech ddisgyn i’r category ‘tlawd o danwydd’ er eich bod yn byw mewn tŷ bach, effeithiol oherwydd bod eich income yn isel ddifrifol ac ni fyddai’r holl gymorth adeiladu yn y byd yn eich helpu i fod ddim mymryn cynhesach.

Gall bod yn gynnes olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw i bobl fregus a rhwng bod yn weddol hapus eu byd a bod yn ddiflas ddifrifol drwy’r gaeaf. Ond dydi tlodi tanwydd ddim yn ddu a gwyn i’r gweddill ohonom. Gallwn hofran i mewn ag allan o dlodi tanwydd mewn chwinciad chwannen, y naill ffordd neu’r llall. Gallwn fod yn wyn ein byd heddiw ond fory daw rhyw gystudd annisgwyl i’n rhan – gall ysgariad, diweithdra, newid mewn pris tanwydd neu aeaf garw droi’r drol. Ac yna daw haul ar fryn – partner oes, swydd newydd neu aeaf mwyn a dyna ni nôl ar ein traed eto. Mae’n ddigon posib na wnaethoch sylwi fod rhywun yn eich labelu’n ‘dlawd o danwydd’!

Efallai eich bod newydd briodi ac yn prynu’ch cartref cyntaf: beth yw’r peth gorau i wneud? Prynu tŷ bach neu dderbyn ychydig flynyddoedd o gyni a phrynu tŷ ychydig yn fwy anodd ei drin yn y gobaith y bydd yn cynyddu yn ei werth yn y pendraw? Byddai llawer yn cytuno mai’r ail ddewis yw’r un sy’n buddsoddi yn eich hapusrwydd yn y dyfodol os gallwch ymdopi gyda’r caledi yn y cyfamser. Ond mae’n debygol y bydd y dewis hwnnw yn eich gosod yn y category ‘tlawd o danwydd’. Y pwynt yw bod pawb – y rhai sy’n dewis aberthu cysur yn y tymor byr i sicrhau lles yn y dyfodol yn cael eu mesur yn yr union ffordd â’r bobl fregus sydd heb unrhyw ddewis o gwbl ynglŷn â’r peth. Dim ond un enghraifft yw hynny: digon dweud nad ydi ‘tlodi tanwydd’ yn gwahaniaethu rhwng pobl sydd yn wirioneddol debygol o ddioddef yn yr hir dymor a’r rhai sydd yno dros dro, ac sydd o bosib ddim hyd yn oed yn sylwi eu bod yno o gwbl.

Pam felly fod y tymheredd hud o 21°C yn cael ei ystyried yn dderbyniol? Os oes asesiad i’w wneud rhaid cael rhyw fath o linyn mesur. Yr un ddewiswyd ddegawdau yn ôl oedd cyngor gan Sefydliad Iechyd y Byd (y WHO). Daethant hwy i’r casgliad fod tir cyffredin rhwng effeithiau negyddol hir dymor tymheredd is na tua 18°C neu uwch na 24°C ar iechyd (mae amrywiaeth bach o radd neu ddwy i bobl fregus). Felly, byddem yn disgwyl y gall oedolion iach, cyhyd â’n bod yn cadw’n hunain o gwmpas 18°C am y rhan fwyaf o’r amser yn mynd i fod yn hollol iawn ac mae hyd yn oed y WHO yn dweud y gall tymheredd ‘dderbyniol’ fod yn is dim ond i ni arfer gyda nhw a/neu wisgo dillad twymach. Sy’n peri i ni ofyn y cwestiwn pam ar y ddaear fod y tymheredd sy’n faen prawf tlodi tanwydd yn uwch na’r tymheredd y bydd y mwyafrif o dai yn llwyddo/dymuno i’w cyrraedd? Ac ydi polisi tlodi tanwydd yn awgrymu ein bod, oherwydd ein bod yn dewis peidio â chynhesu’n tai i’r tymheredd ‘derbyniol’ yn peryglu’n iechyd corfforol a meddyliol?

Y gwir amdani yw bod sawl degawd wedi mynd heibio ers i dlodi tanwydd godi’i ben fel problem, ac felly roedd tymheredd mympwyol a ymddangosai’n un lled resymol ar y pryd ymhell o’n dealltwriaeth o’r angen i arbed ynni a bod yn fwy ynni effeithlon heddiw. Yn y cyfamser rydym nid yn unig wedi deall pa mor bwysig yw hi i allu fforddio cadw’n hunain yn gynnes ond hefyd wedi deall fod yn rhaid i ni fod yn synhwyrol wrth wneud hynny. Dyna pam ein bod yn cael ein cynghori i droi’r gwres lawr 1°C: oherwydd dydi newid mor fach ddim yn debygol o gael effaith andwyol ar y mwyafrif sy’n gallu addasu a dysgu byw gydag ychydig llai o wres (yn enwedig gyda mwy o ddillad). Mae hyn yn ffordd o arbed arian a hyd yn oed os nad ydych yn elwa o welliannau i’r tŷ bydd yn lleihau rhywfaint ar yr allyriadau.

Rhaid i ni ddod i’r casgliad felly nad ydi polisi arbed ynni ddim yn rhoi neb mewn perygl drwy ofyn am i ni droi’r gwres i lawr o 1°C felly pam na allwn ofyn i’r polisi tlodi tanwydd adlewyrchu hyn hefyd? Ydi hi’n ormod disgwyl i bolisi cenedlaethol fod yn gyson? Byddai budd ychwanegol o leihau’r niferoedd anferth o bobl sy’n cael eu labelu’n ‘dlawd o danwydd’ yn nes at y nifer sydd wirioneddol angen neu eisiau ein help.

Dyma pam y bu i ni gyflwyno ein hymateb i ymchwiliad Llywodraeth Cymru ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni i awgrymu iddyn nhw fod angen galw am newid yn y tymheredd ‘derbyniol’ sy’n cael ei ddefnyddio fel un o’r meini prawf ac am fwy o ymchwil i sut y gallwn ddysgu gan y ‘tlawd o danwydd’ am sut i ymdopi gyda thai ychydig bach llai poeth. Gallwch ddarllen y ddogfen lawn yma [link].

Un peth sy’n sicr mae gan y ‘tlawd o danwydd’ un neu ddau o bethau i ddysgu i ni am sut i ymdopi gyda llai. Mae angen i ni ddysgu ganddyn nhw yn ogystal â gwneud popeth o few nein gallu i wella ansawdd bywyd y rhai bregus a’r mwyaf anghenus.

Gyda diolch i Dr Andrew Thomas am ei gyfraniad (siocled i ddilyn!!)

Dydi cynnwys y blog hwn ddim yn adlewyrchiad o farn Prifysgol Bangor.

Leave a comment