Mae blwyddyn newydd yn gyfle i rai i wneud addunedau – rhyw restr ddiflas o fethiannau i fflangellu’n hun â nhw’r flwyddyn wedyn ond erbyn hyn rwy’n croesawu’r cyfle i gyfle i adolygu’r flwyddyn sydd wedi mynd ac i edrych ymlaen yn obeithiol at yr un sy’n dod.
Mae 2015 am fod yn flwyddyn ddiddorol yn wleidyddol gydag etholiad cyffredinol ar gyfer senedd San Steffan ar y gorwel. Ddoe fe gyhoeddodd y ‘tair brif blaid’ (yn ôl y wasg Brydeinig) eu hymgyrchoedd ethioliadol ac yn ddi-eithriad prif nodwedd y cyhoeddiadau oedd lladd ar ei gilydd. Fe fydd angen nerth ar y cyhoedd yn gyffredinol dros y misoedd rhwng nawr a’r 7fed o Fai i ddioddef yr artaith o weld gwleidyddion yn batio cyhuddiadau yn ôl ag ymlaen rhwng ei gilydd fel peli ping pong.
Efallai y gallai’n Gwleidyddion fabwysiadu agwedd mwy positif drwy edrych tuag at wledydd Llychlyn, i Ddenmarc yn benodol, am ysbrydoliaeth. Mae’n debyg mai trigolion Denmarc yw’r bobl hapusaf yn y byd ac mae yna resymau am hyn e.e.:
- Ymddiriedaeth cryf mewn pobl eraill
- Nawdd cymdeithasol hael (budd-dal diweithdra yn 80% o’r cyflog blaenorol am ddwy flynedd)
- GDP uchel (sydd wrth gwrs ddim yn arwydd perffaith o lwyddiant)
- Addysg prifysgol am ddim
- Agwedd agored at hawliau hoywon
- Agwedd agored at ‘gydbwysedd bywyd-gwaith’. Dwi’n hoff iawn o hyn – dydi gweithio oriau hir ddim yn arwydd o deyrngarwch ond o ddiffyg trefn.
- Cydraddoliaeth
- Cydraddoldeb ar sail rhyw
Does unman yn berffaith ac mae’n siŵr fod modd pigo tyllau ond rwy’n hoff o’r syniad mai proses yw hapusrwydd – nid stad barhaol. Nid trwy ddamwain mae bod yn hapus ond drwy wneud penderfyniad i gyrraedd y nod drwy ddathlu’r pethau bychain yn ein bywydau bob dydd.
Yn wleidyddol byddai’n braf gweld ein gwleidyddion yn magu hyder i ddweud ‘digon yw digon’ wrth y diffyg cydbwysedd sy’n dinistrio’n democratiaeth, ein planed a ni’n hunain. Mae llyfr ar fin cael ei gyhoeddi gan Henry Mintzberg sy’n ymhelaethu ar hyn. Yn y bôn mae cyfalafiaeth a sosialaeth wedi methu yn eu tro. Bellach rhaid cofleidio’r sector ‘lluosog’ – y sefydliadau ‘nid er elw’, ‘trydydd sector’ ‘cymdeithas sifil’ – beth bynnag yw’r label diweddaraf. Mae’n syniad deniadol meddwl fod posib i ‘ni’ gydweithio yn hytrach na gadael pob dim iddyn ‘nhw’ i sortio allan (yn wael).
Darllen pellach:
http://unsdsn.org/resources/publications/world-happiness-report-2013/
The Year of Living Danishly: Uncovering the Secrets of the World’s Happiest Country gan Helen Russell – fe’i cyhoeddir gan Icon ar Ionawr 8fed
Rebalancing Society: Radical Renewal Beyond Left, Right, and Center gan Henry Mintzberg http://www.mintzberg.org/blog/rebalancing