Working together for a brighter future

If you are beginning your University life, Welcome to Bangor; welcome back to everyone else.

I wanted to drop in with a brief ‘hello’ during the first full week of the new academic year to ask you to press the ‘pause button’ for a moment with thoughts of sustainability and well-being.

I’d like to remember four things (for now!)

  1. Sustainability is central to everything we do at Bangor University
  2. The Sustainability Lab team is here to work with you across the campus
  3. Sustainability is definitely about being ‘green’ but it is just as much about the social, cultural and economic well-being of people and communities. Wales describes this as ensuring ‘the well-being of current and future generations
  4. Sustainability is a global as well as a local challenge and as a University family, citizens of the world, from all corners of the globe, are contributing in every way we can towards the United Nations Sustainable Development Goals.

During the coming academic year, the Sustainability Lab will be tackling some major challenges WITH you (note – we are not here to do things FOR anyone or TO them!). So, we look forward to hearing your views, responding to your concerns at our monthly ‘Putting the World to Rights’ sessions and to work with you to put your ideas into practice and develop campaigns on things that matter – #WAW19 is the first on the list.

Follow us on our social media channel and JOIN IN!

Here’s to a fantastic year ahead – whatever the weather!

Please watch

Dyfodol gwell ar y gweill

Croeso i Fangor i’r rhai sy’n dechrau’r daith drwy’r Brifysgol a chroeso yn ôl i bawb arall.

Roeddwn am daro nodyn sydyn i ddweud ‘helo’ yn ystod wythnos lawn gynta’r tymor i ofyn i chi roi’ch bys ar y botwm ‘saib’ am eiliad i ystyried cynaliadwyedd a lles.

Hoffwn i chi gofio pedwar peth (am y tro!)

  1. Mae Prifysgol Bangor yn rhoi pwys mawr ar fod yn gynaliadwy ac mae cynaliadwyedd yn ganolog i bopeth a wnawn yma.
  2. Sefydlwyd tîm y Lab Cynaliadwyedd yma i gydweithio gyda chi gyd ar draws y campws.
  3. Wrth gwrs fod Cynaliadwyedd yn rhoi pwys mawr ar fod yn ‘wyrdd’ ond mae llesiant cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pobl a’u cymunedau yn hanfodol hefyd. Caiff hyn ei ddisgrifio yng Nghymru fel ein llesiant ni a llesiant cenedlaethau’r dyfodol
  4. Mae bod yn gynaliadwy’n her leol a rhyngwladol. Rydym fel Prifysgol yn deulu o ddinasyddion byd-eang o bob cwr o’r byd ac yn cyfrannu hyd eithaf ein gallu tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy Cenhedloedd Unedig.

Yn ystod y flwyddyn academaidd sy’n dod bydd y Lab Cynaliadwyedd yn taclo heriau mawr GYDA chi (sylwch – ydym ni ddim yma i wneud dim byd DROS neb nac i neb!). Felly, edrychwn ymlaen at glywed eich barn ac ymateb i’ch pryderon yn ein sesiynau ‘Rhoi’r Byd yn ei Le’ sy’n cyfarfod yn fisol ac i weithio GYDA chi i wireddu’ch syniadau a datblygu ymgyrchoedd ar bethau sy’n bwysig i chi – #WAW19 yw’r digwyddiad cyntaf.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a da chi, YMUNWCH Â NI

Gan ddymuno blwyddyn wych i bawb – beth bynnag fo’r tywydd!

Gwyliwch: