Gomoa Obiri a fi – hanes Nana Ankama 1af

Mae’n bosib rhoi rhodd i’r pentref bach ar y dudalen hon: https://www.justgiving.com/crowdfunding/einir-young

Profiadau’r Fam Frenhines!

Ionawr 1998 oedd hi pan gefais brofiad rhyfeddaf fy mywyd ac mae’r lluniau’n profi hynny. Cefais fy ngorseddu’n Fam Frenhines – Nana Ankama 1af o Gomoa Obiri, pentref bach ar arfordir de Ghana.

Lleoliad Gomoa Obiri

Mae’r stori’n dechrau ychydig fisoedd yn gyn pan ymwelodd cydweithiwr a minnau â’r pentref fel rhan o astudiaeth o barth arfordirol Ghana. Clywsom sôn fod y pentrefwyr yn wneuthurwyr siarcol ac roeddem yn awyddus gwybod pa fath o effaith oedd hyn yn ei chael ar yr amgylchedd ac a oedden nhw’n ailblannu coed ai peidio.

Mae’r lluniau’n fwy huawdl na geiriau. Roedd yn sioe ryfeddol o ddiwylliant Affricanaidd, wedi ei ffilmio gan Wil Aaron, Ffilmiau’r Nant ar gyfer S4C.

Cafodd y stori lawer iawn o gyhoeddusrwydd – yn cynnwys erthygl nodwedd yn y cylchgrawn Express on Sunday a chyfweliad gyda Angela Rippon ar sioe Gloria Hunniford

Gwnes addewid ar y pryd y byddwn i’n rhoi cefnogaeth i’r pentref mewn partneriaeth; yn gwneud pethau gyda nhw, nid iddyn nhw nac iddyn nhw. Ac felly y bu. Dyma grynodeb o’r cynnydd ers Ionawr 1998:

1. Y Clinig

Doedd gen i ddim y syniad lleia sut i fynd ati i helpu’r pentref heb fod yn nawddoglyd a beth bynnag, nid oeddwn yn graig o arian.

Daeth Tony, Hefina ac Eglwys Llandygai (gweler isod) i’r adwy ac fe benderfynon ni arbrofi gyda rhodd o £50 . Cefais i’r syniad efallai y gallen nhw logi tacsis i gymryd menywod beichiog a oedd mewn trafferthion i’r ysbyty yn Apam (ychydig filltiroedd i ffwrdd).

Pan ddychwelais ychydig fisoedd wedyn, adroddwyd fel a ganlyn:

• Roeddent o’r farn bod fy syniad yn anghynaladwy ac felly aethon nhw am gyngor i’r ysbyty yn Apam.

• Awgrymodd y staff yno eu bod yn llogi cwt yn y pentref i sefydlu clinig.

• Anfonwyd dau ddyn i gael eu hyfforddi fel swyddogion cymorth cyntaf

• Darparodd yr ysbyty gyffuriau addas ar gyfer salwch cyffredin – lladd poen, tabledi gwrth-falaria, tabledi ar gyfer diffyg traul ac ati a’r ysbyty i ail-gyflenwi yn ôl yr angen.

• Gofynnwyd i bobl gyfrannu ‘ arian bach bach ‘ tuag at y cyffuriau a’r cyfan wedi ei nodi mewn cofrestr o gleifion.

• Prynwyd beic ar gyfer y ddau gymhorthyn cyntaf (oedd yn gweithio sifftiau) i ymweld â’r claf os oedd angen.

Un o’r cymorthyddion cyntaf a’r meddigyniaethau

Fe’n plesiwyd yn fawr iawn gan y mentergarwch yma a phenderfynodd Tony, Hefina a’r Eglwys ymestyn y gefnogaeth.

Y cam nesaf oedd i’r Penaethiaid a’r Pwyllgor Datblygu lunio cynllun. Yn gyntaf, roedd angen trydan arnynt, ysgol oed yr ail ddymuniad ac yn drydydd roedd angen datblygu safle marchnad newydd. Cytunasom i’w helpu, fesul tipyn.

2. Polion trydan

Y cam cyntaf oedd gorffen prynu set gyflawn o 30 polyn o bren Teak ar gyfer eu cyflenwad trydan. Roedd gan Lywodraeth Ghana raglen hunan gymorth trydan (SHEP). Pe bai pentrefi yn casglu digon o arian i brynu’r polion byddai’r Llywodraeth yn talu am y gwifrau.

Yr oedd Gomoa Obiri eisoes wedi llwyddo i brynu 9 o’r 30 ond roedd angen 21 polyn arall @ £50 yr un. Cyflawnwyd hyn yn 2009.

Ghana21polyntrydan

Trydan o’r diwedd

Pan aeth Mike a finnau yno yn 2010 roeddent yn falch iawn o’n tywys o gwmpas y pentref yn y nos yng ngolau’r cyflenwad trydan newydd. Yn sgil hyn mae’n bosib i siopau bach aros ar agor yn hwyrach.

Rhyfeddod! Gallu siopa yn y nos diolch i’r cyflenwad trydan newydd
Dosbarth babanod

3. Yr ysgol  

Roedd yr hen ysgol yn dadfeilio, yn bennaf oherwydd erydiad yn sgìl glaw trwm yn sblasio o’r to alwminiwm (oedd heb gwteri). Roedd sylfaen ar waith eisoes ar gyfer adeilad chwe ystafell ddosbarth felly fesul wal fe wnaethon ni eu helpu i’w orffen.

Mae ganddynt system wych yn y pentref -‘diwrnod tabŵ ‘. Ar y diwrnod hwn (dydd Mawrth fel arfer) dydi pobl ddim yn mynd i’w ffermydd ond yn hytrach maent yn defnyddio’r amser i wneud ‘ gwaith cymunedol ‘. Yn achos y prosiect ysgol roedden nhw yn gwneud y brics eu hunain ac yn eu defnyddio i adeiladu’r adeilad eu hunain. Oherwydd bod y pentref yn dangos mentergarwch gyda’r holl syniadau daeth yr awdurdod lleol i mewn i helpu rhoi to ar yr ysgol. Roedd cael adeilad pwrpasol newydd hefyd yn golygu y gallent ddenu athro newydd.

4. Y farchnad  

Oherwydd y clinig, roedd mwy o bobl yn dod i’r pentref, felly roedd y grŵp datblygu o’r farn y byddai’n dda cael marchnad well i alluogi masnachwyr bach i werthu eu nwyddau a’u cynnyrch i’r cleifion a oedd yn ymweld.

Dechrau gwaith ar farchnad newydd

5. Dosbarth ychwanegol ar gyfer yr ysgol, tanc storio dŵr a bloc toiledau.

Ymhen dipyn nid oedd y chwe ystafell ddosbarth yn ddigon felly bu’n rhaid adeiladu gofod meithrin a chegin ychwanegol.

Gan fod yr hen ysgol wedi dioddef o erydiad penderfynwyd rhoi gwteri ar do’r ysgol hon gwteri a chasglu’r dŵr o’r to i gronfa.

Pydew ar gyfer croni dwr o do’r ysgol

Roedd angen tai bach ar yr ysgol hefyd ac adeiladwyd bloc o dai bach tu allan

Erbyn hyn mae tar ar y ffordd trwy’r pentref ac mae mwy o brynu a gwerthu felly maen nhw’n meddwl bod angen ehangu’r farchnad a’r clinig.

Bydd yr arian a gesglir o’r ymgyrch pen-blwydd 2020 yn mynd tuag at hyn.

Tony a Hefina Chamberlain ac Eglwys Llandygai.

Yn dilyn y rhaglen ar S4C cafodd cyfeillion mynwesol i fi, Tony a Hefina, y syniad y dylem gefnogi’r pentref yn uniongyrchol. Roeddent yn bileri’r achos yn Eglwys Llandygai ac fe aethant ati i drefnu casglu arian bob Nadolig yn y gwasanaeth carolau ar gyfer y pentref. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Eglwys am eu cefnogaeth. Mae Eglwys Llandygai parhau i gadw cysylltiad â Ghana ond trwy waith Esgobaeth Cape Coast.

Gomoa Obiri a Phrifysgol Bangor

Roeddwn yn Ghana yn sgìl prosiect a ariannwyd gan DFID drwy’r Ganolfan Astudiaethau Tir Cras (CAZS). Bu Tony’n ddarlithydd Cynhyrchu Anifeiliaid yn yr hen Adran Amaethyddiaeth ac ef oedd un o sylfaenwyr a chyn-gyfarwyddwr CAZS. Bu ef a Hefina yn ymwneud â niferoedd dirifedi o fyfyrwyr ac ymwelwyr tramor dros y blynyddoedd. Gobeithio bod y gwaith yn Gomoa Obiri yn etifeddiaeth addas i’r ddau ohonynt. Bu farw Tony yn 2003 a Hefina yn gynnar yn 2018. Yr oeddent yn ysbrydoliaeth fawr i mi ac yr wyf yn gweld eu heisiau’n fawr iawn.

Mike a’r Youngs. Mae mam, dad, Llinos a’i theulu wedi bod yn gefnogol iawn. Ymwelodd mam a dad yn 2000 a chawsant groeso tywysogaidd. Ymwelodd Mike a minnau yn 2010 (oedd yn gyfle i Mike berffeithio ei ddynwarediad ‘ Dug Caeredin ‘, yn cerdded ychydig o gamau parchus y tu ôl i Nana Ankama I). Y tro hwn, 2020, tro Llinos yw hi i ddod gyda fi ar daith.

Diolch yn fawr i chi am ystyried cyfrannu tuag at y prosiect hirdymor hwn. Mae Llinos a minnau’n edrych ymlaen at rannu ein straeon maes o law.

Mae’n bosib rhoi rhodd i’r pentref bach ar y dudalen hon: https://www.justgiving.com/crowdfunding/einir-young

Leave a comment