Croeso i fy ail flog! Beth yn y byd sbardunodd fi i roi pin ar bapur neu redeg bysedd dros yr allweddell y tro hwn?
Mentrodd Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd Cymru i Fangor a chroesawyd hwy drwy frecwast gan Rwydwaith WISE (www.wisenetwork.org) fel cyfle i’r Comisiynwyr a busnesau lleol gael cyfle i drafod sut i fynd ati i sicrhau ‘twf gwyrdd’.
Mae’n amlwg ers tro fod geiriau megis ‘gwyrdd’ a chynaliadwyedd’ yn golygu popeth a dim yn dibynnu ar bwy sy’n eu defnyddio. Anaml y byddant yn cyfeirio at y gwir broblem sef ein bod wedi’n cyfyngu i adnoddau un blaned ac nad oes yna blaned B (ymddiheuriadau nad ydi’r chwarae ar eiriau yna’n gweithio yn y Gymraeg!]. Rydym wedi’n caethiwo gan y model economaidd presennol i’r fath raddau fel bod bron pawb, yn gyhoeddus o leiaf, eisiau cael eu gweld fel pobl ‘realistig’ – hynny yw, busnes fel arfer gyda thamaid o wyrdd hwnt ag yma (heb amharu dim ar ‘greu swyddi’, twf mewn GDP at ati). Continue reading